Gas Safe Register, the official UK gas registration body, coordinates Gas Safety Week at the start of ‘heating switch-on-season’ every year. This year Gas Safety Week falls from 14th - 20th September. Throughout the week Gas Safe Register, Fire and Rescue services and engineers will be touring the country to advise the public on how to stay gas safe.
During 2014 68,000 homes escaped from deadly gas related incidents including explosions, fire and carbon monoxide poisoning thanks to intervention by Gas Safe Register approved engineers. 57% of those engineers have had to switch off a home’s gas supply because it posed an immediate risk to life or property.
The Gas Safe Register website is regularly updated with information on how to stay Gas Safe within your home. Guto commented, “Every year I am terrified to hear just how many people, in Aberconwy and further afield, have unsafe gas fired appliances. I would encourage everyone to visit the Gas Safe Register’s website which has lots of practical tips to make sure your home is gas safe and remember, have your gas appliances checked once a year!”
Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw’r corff sy’n gyfrifol am y rhestr swyddogol o beirianwyr nwy ac wrth i bobl ddechrau meddwl am wresogi eu tai bob blwyddyn bydd yn cyd-drefnu’r Wythnos Diogelwch Nwy. Bydd hon yn cael ei chynnal eleni rhwng 14 a 20 Medi ac yn ystod yr wythnos bydd swyddogion a pheirianwyr y Gofrestr Diogelwch Nwy a’r Gwasanaethau Tân ac Achub yn teithio’r wlad yn cynghori’r cyhoedd ar sut i ddefnyddio nwy yn ddiogel.
Yn ystod 2014, diolch i beirianwyr a gymeradwyd gan y Gofrestr Diogelwch Nwy, cafodd 68,000 o gartrefi eu harbed rhag ffrwydradau, tanau a gwenwyd carbon monocsid. Bu’n rhaid i 57% o’r peirianwyr hyn ddiffodd y cyflenwad nwy i gartrefi oherwydd perygl gwirioneddol i fywyd neu eiddo.
Caiff gwefan y Gofrestr Diogelwch Nwy ei diweddaru’n rheolaidd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut i ddefnyddio nwy yn ddiogel yn eich cartref. Dywedodd Guto, “Bob blwyddyn câf fy mrawychu wrth glywed am yr holl bobl yn Aberconwy a thu hwnt sy’n defnyddio peiriannau nwy nad ydynt yn ddiogel. Byddwn yn argymell bod pawb yn edrych ar wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy ac yn cael peiriannwr cymwys i archwilio’u systemau nwy unwaith bob blwyddyn.”
Photograph taken by Douglas Dunn, available at https://upload.wikimedia.org/wikipedia/en/a/a8/Viessmann_Vitodens_200.jpg