Looking ahead
Ultimately, when his colleagues declared they'd lost their confidence through resignations, the Prime Minister had to go.
Every Prime Minister - every Minister - is on their way out of office. We just don't always know how, why or when. I'm very disappointed about the events of the last fifteen months, for many reasons. There will be plenty of people picking over the pieces and seeking to shape his legacy. I won't join them beyond saying that three events - the pandemic, Putin's invasion of Ukraine and leaving the EU - and our response under his premiership, have shaped the world and the lives of everyone in this country.
I'm immensely proud to have worked with Boris Johnson as our Prime Minister, in a small way, on your behalf, on all those issues. I will also say I'm immensely proud that, as your representative, I was able to bring our Prime Minister of the United Kingdom to Aberconwy three times in the last twelve months. He was always interested in us, commented on the beauty and industry he saw here and was genuine in his ambition to "level up" the opportunity he saw here to match our potential.
Now, my immediate concern is continuity and getting on with that "leveling up" mandate we received as a government in 2019 - that's why I chose to support Suella Braverman MP from an early stage of this leadership campaign. It's essential that whoever does end up as our new Prime Minister offers a change and a clean, fresh start and I believe she is someone of integrity. Now that she is out of the running I will be considering over the coming days which of the remaining candidates I will be supporting. Following this evening's debate on Channel 4, all the remaining candidates are participating in another live debate on ITV on Sunday evening - I'm sure it'll make fascinating viewing!
No one enters high office, especially that of Prime Minister, fully formed. It's the nature of the job that nothing is like it. But these points were essentials for me and when I looked across cabinet for potential leaders, she stood out. It's going to be a fiercely busy and bumpy few weeks for the very diverse field that has emerged over the last week. But its diversity and the debate actually makes me excited for the future.
Edrych i’r dyfodol
Yn y pen draw, pan ddywedodd ei gydweithwyr eu bod nhw wedi colli hyder ynddo drwy ymddiswyddiadau, roedd yn rhaid i’r Prif Weinidog fynd.
Mae pob Prif Weinidog – pob Gweinidog – ar eu ffordd allan o’u swydd. Dydyn ni ddim bob amser yn gwybod sut, pam na phryd. Rydw i’n siomedig iawn â digwyddiadau’r pymtheg mis diwethaf, am nifer o resymau. Bydd digon o bobl yn ceisio esbonio’r hyn a ddigwyddodd ac yn ceisio siapio ei waddol. Ni fyddaf yn ymuno â nhw y tu hwnt i ddweud bod tri digwyddiad – y pandemig, Putin yn ceisio goresgyn Wcráin, a gadael yr Undeb Ewropeaidd – a’n hymateb o dan ei arweinyddiaeth, wedi siapio’r byd a bywydau pawb yn y wlad hon.
Rydw i’n hynod falch o fod wedi gweithio gyda Boris Johnson fel ein Prif Weinidog, mewn ffordd fechan, ar eich rhan chi, ar yr holl faterion hynny. Byddwn hefyd yn dweud fy mod i’n falch iawn fy mod i, fel eich cynrychiolydd, wedi gallu dod â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig i Aberconwy dair gwaith yn ystod y deuddeg mis diwethaf. Roedd ganddo ddiddordeb ynom bob amser. Soniodd am harddwch y lle ac am y diwydiant a welodd yma, ac roedd yn ddidwyll o ran ei uchelgais i “godi’r gwastad” i gyd-fynd â’n potensial ar sail yr hyn a welodd yma.
Yn awr, fy mhryder cyntaf yw parhad a bwrw ymlaen â’r mandad “codi'r gwastad” hwnnw a gawsom fel llywodraeth yn 2019. Rydw i wedi dewis cefnogi Suella Braverman AS o gam cynnar yn yr ymgyrch arweinyddol hon. Mae’n hanfodol bod pwy bynnag a ddaw’n Brif Weinidog newydd yn cynnig newid a dechrau ffres o’r newydd, ac rwy’n credu ei bod hi’n unigolyn didwyll. Yn bersonol, mae hi’n ddymunol, yn ymarferol, yn gyflym i wenu ac yn ddiffwdan – yn normal iawn mewn geiriau eraill.
Mae hefyd yn bwysig bod rhywun sydd â phrofiad o’r cabinet a rhedeg adran yn cymryd yr awenau ar adeg mor allweddol. Heb y profiad hwnnw, a gafwyd dros y ddwy flynedd diwethaf, mae’n anodd ennyn parch gweddill y cabinet. Ar yr adegau rydw i wedi gweithio gyda hi - yn anad dim i sicrhau lle Gogledd Iwerddon yn y Deyrnas Unedig a Phrotocol Gogledd Iwerddon - mae ei ffordd o weithio, ei hymrwymiad i’n maniffesto, ei chrebwyll wrth ymdrin ag amrywiaeth eang o faterion a’i natur hynod benderfynol yn wyneb gwrthwynebiad wedi creu argraff arnaf.
Nid oes neb yn dod i swydd uchel, yn enwedig swydd y Prif Weinidog, wedi ei ffurfio’n llawn. Natur y swydd yw’r ffaith nad oes dim yn debyg iddi. Ond roedd y pwyntiau hyn yn hanfodol i mi a phan oeddwn i’n edrych ar draws y cabinet am ddarpar arweinwyr, roedd hi'n enw amlwg. Mae’n mynd i fod yn gyfnod prysur a chynhyrfus iawn i’r criw amrywiol iawn sydd wedi dod i’r amlwg dros yr wythnos ddiwethaf. Ond mae’r amrywiaeth a’r drafodaeth yn peri i mi edrych ymlaen at y dyfodol.