Mae llawer o’n ffermydd ledled Aberconwy wedi cael eu rheoli gan yr un teulu am genedlaethau. Mae eu cyfraniad at ein cymunedau (a’n byrddau bwyd!) yn amhrisiadwy. O gynhyrchu’r cig oen ac eidio gyda’r gorau yn y byd i ddiogelu harddwch naturiol tirweddau Eryri, dylai ein ffermydd teuluol fod yn rhywbeth y mae pob un ohonom yn ymfalchïo ynddo.
Rwyf yn cwrdd yn rheolaidd â ffermwyr a’u cynrychiolwyr ac yn dilyn cyfarfod ag Undeb Amaethwyr Cymru’r haf diwethaf llwyddais i sicrhau bod Pwyllgor Materion Cymreig Senedd y DU yn cynnal ymchwiliad i sut y gall llywodraethau Cymru a’r DU gydweithio i helpu ein cymunedau amaethyddol i oresgyn effaith newid economaidd ac amgylcheddol byd-eang.
Yn gynharach yn y mis cefais y pleser o wahodd aelodau’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yma i Aberconwy i gwrdd â ffermwyr lleol yn Llanrwst ac i glywed tystiolaeth ganddynt o effaith masnach y DU a pholisi newid yn yr hinsawdd ar ffermydd teuluol Cymreig. Roeddent yn cynrychioli amrywiaeth eang iawn o ffermydd ond roedd rhai pryderon a dyheadau a oedd yn gyffredin iddynt i gyd, ac i’w teuluoedd a’u plant.
Fel cymaint o ffermydd, rwyf yn gynyddol bryderus am y camwybodaeth sy’n ymwneud ag effaith ffermio da byw ar newid yn yr hinsawdd ac mae hwn bellach yn fater mor ddifrifol nes iddo arwain at ymosodiadau ar-lein rheolaidd ar un ffermwr am wneud dim mwy na chynhyrchu cig. Mae beirniadaeth o’r fath mor annheg oherwydd nid yn unig mae arferion ffermio Prydain yn gynaliadwy ond ganddynt hefyd rôl allweddol i’w chwarae i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae cig oen ac eidion o Brydain ymhlith y mwyaf cynaliadwy ac effeithlon yn y byd o ganlyniad i’w systemau sydd wedi’u seilio ar borfa. Y mis diwethaf, gofynnais am sicrwydd gan Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James AS, nad oedd gan Lywodraeth Cymru bolisi i leihau faint o gig sy’n cael ei fwyta i leihau newid yn yr hinsawdd. Gallwch wylio ei hymateb yma.