Robin Millar is keen for as many communities as possible to see if they may be eligible for funding from the Community Ownership Fund. The details of this have been announced today and the official government press release is below.
If you think you may be eligible, or have an idea but don’t know how to go about this – please make contact with Robin by telephoning the office or emailing [email protected].
People across Wales will have the chance to become owners of at-risk local pubs, theatres, post offices, sports grounds and corner shops with the launch of the UK Government’s Community Ownership Fund, which will see more than £7m set aside for projects in Wales.
The £150m fund is part of the UK Government’s plan to build back better from the pandemic by giving communities the power to save the local institutions that foster a sense of community.
Details have been published today (Thursday 15 July) of how voluntary and community organisations across Wales and the rest of the UK will be able to bid for up to £250,000 matched funding to buy or take over local assets and run them.
In exceptional cases, up to £1 million will be available to establish sports clubs or help to buy sports grounds at risk of being lost without intervention - meaning a group of supporters could become the Chairman and board at their local team.
A total of £7.1 million has been set aside for community projects in Wales, whether they be sporting and leisure facilities, cinemas and theatres, music venues, museums, galleries, parks, pubs, post office buildings and shops.
The Prime Minister unveiled more detail as part of a major speech today (Thursday) in which he set out how the UK Government will continue to level up all regions of the country, by empowering towns, villages and high streets as we bounce back from the pandemic.
Welsh Secretary Simon Hart said:
"Alongside the Levelling Up Fund, Community Renewal Fund and UK Shared Prosperity Fund, the Community Ownership Fund is part of a crucial package of UK Government funding designed to support communities and to make sure that nowhere is left behind.
"The funds will play an important role in levelling up and strengthening our Union as we build back better from the pandemic. I encourage people and communities across Wales to take advantage of the opportunities the Community Ownership Fund provides in their local areas."
Today’s announcement follows major investment and action from the UK Government to level up opportunity and prosperity across all areas of the UK, including through the £4.8 billion Levelling Up Fund and the £220 million Community Renewal Fund.
The UK Government will undertake a series of information events with communities, the Voluntary and Community Sector (VCS) and local authorities in all parts of the UK. The fund will run over four years (until 2024/2025). There will be multiple bidding rounds. The first opens on 15 July and closes on 13 August.
CRONFA LLYWODRAETH Y DU YN AGOR AR GYFER CEISIADAU GAN GYMUNEDAU AR DRAWS CYMRU
Mae Robin yn awyddus i gynifer o gymunedau ȃ phosib weld a allent fod yn gymwys ar gyfer nawdd gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Mae’r manylion amdani wedi’u cyhoeddi heddiw ac mae’r datganiad swyddogol gan y llywodraeth i’r wasg, isod.
Os ydych yn meddwl y gallech fod yn gymwys, neu os oes gennych syniad, ond heb wybod sut i fynd o gwmpas hyn – cysylltwch ȃ Robin drwy ffonio’r swyddfa neu anfon e-bost i: [email protected]
Bydd gan bobl ar draws Cymru’r cyfle i ddod yn berchnogion ar leoliadau sydd mewn perygl o gau – tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwarae a siopau cornel – drwy gyfrwng lansiad Cronfa Perchnogaeth Gymunedol gan Lywodraeth y DU, a fydd yn gweld dros £7m yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru.
Mae’r gronfa o £150m yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU i ailgodi’n gryfach yn dilyn y pandemig drwy roi’r pŵer i gymunedau achub y sefydliadau lleol sy’n meithrin teimlad o gymuned.
Mae manylion wedi’u cyhoeddi heddiw (Dydd Iau 15 Gorffennaf) ar sut y gall mudiadau gwirfoddol a chymunedol ar draws Cymru a gweddill y DU, wneud cais am hyd at £250,000 o arian cyfatebol i brynu neu gymryd rheolaeth dros eu hasedau lleol, a’u rhedeg.
Mewn achosion eithriadol, bydd hyd at £1 miliwn ar gael i sefydlu clybiau chwaraeon neu i fod o gymorth i brynu meysydd chwarae sydd mewn perygl o gael eu colli os na cheir ymyriad – sy’n golygu y gallai grŵp o gefnogwyr ddod yn Gadeirydd ac aelodau bwrdd ar gyfer eu tȋm lleol.
Mae cyfanswm o £7.1 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru, boed nhw’n gyfleusterau chwaraeon a hamdden, sinemȃu a theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, amgueddfeydd, galerïau, parciau, tafarndai, adeiladau’r swyddfa bost a siopau.
Dadorchuddiodd y Prif Weinidog ragor o fanylion fel rhan o araith fawr heddiw (ddydd Iau), lle y nododd sut y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i godi’r gwastad ym mhob rhanbarth o’r wlad, drwy rymuso trefi, pentrefi a’r strydoedd mawr wrth i ni adfer o’r pandemig.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart:
“Ochr yn ochr ȃ Chronfa Codi’r Gwastad, y Gronfa Adfywio Cymunedol a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn rhan o becyn hanfodol o nawdd gan Lywodraeth y DU – a luniwyd i gefnogi cymunedau ac i sicrhau nad yw unrhywle’n cael ei anghofio na’i esgeuluso.
Bydd y cronfeydd yn chwarae rhan bwysig wrth godi’r gwastad a chryfhau’n Hundeb wrth i ni ailgodi’n gryfach yn dilyn y pandemig. Rwy’n annog pobl a chymunedau ar draws Cymru i fanteisio ar y cyfleodd mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn eu darparu yn eu hardaloedd lleol.
Mae’r datganiad heddiw’n dilyn buddsoddiad sylweddol a gweithredu gan Lywodraeth y DU i godi’r gwastad o ran cyfleoedd a ffyniant ar draws holl ardaloedd y DU, gan gynnwys drwy Gronfa Codi’r Gwastad sydd werth £4.8 biliwn a’r Gronfa Adfywio Cymunedol sydd werth £220 miliwn.
Bydd Llywodraeth y DU yn ymgymryd ȃ chyfres o ddigwyddiadau rhannu gwybodaeth gyda chymunedau, y Sector Gwirfoddol a Chymunedol (VCS) ac awdurdodau lleol ym mhob rhan o’r DU. Bydd y gronfa’n rhedeg dros bedair blynedd (hyd nes 2024/2025). Bydd nifer o rowndiau gwneud cais. Mae’r gyntaf yn agor ar y 15 Gorffennaf ac yn cau ar Awst 13.