Aberconwy and the Levelling Up Fund
Congratulations to Cllr Charlie McCoubrey on his election last week as leader of Conwy County Borough Council - and of course to Cllr Sam Rowlands who stepped down from that role to take up his new North Wales Regional role in the Senedd.
Cllr McCoubrey's new team have a crucial role in delivery of some of the most important public services in Conwy and I look forward to working with them and offering what support I can over the coming months and years.
One person I am already working with is the new Deputy Leader, Cllr Louise Emery who has the new Economic Development and Leisure portfolio. This portfolio is of huge importance as we plot a course out of the economic downturn as a result of the pandemic.
Things have been uncertain throughout the pandemic and leaving the restrictions behind is no different. Little is going as predicted and Aberconwy faces huge challenges - not least how vulnerable our important tourism sector is to another pandemic.
So a few quick thoughts here on what is happening about recovery in Aberconwy.
WE HAVE A CHANCE TO "LEVEL UP"
The government's manifesto included a promise to "level up" all parts of the UK
That means investing in areas that have missed out on funds - and seeing an improvement for it.
The key word here is investment. This isn't about easing the council's cash flow or increasing their bank balance. It isn't for what you might call "business as usual".
So the UK government's new Levelling Up Fund was announced some weeks ago - I think it is a great opportunity and could be a terrific boost for Aberconwy.
(There is a separate Community Renewal Fund which is a different UK government fund the council is administrating. I know a lot of groups have applied to that and I can talk about that in a separate post).
HOW MUCH LEVELLING UP WILL HAPPEN?
In cash terms, it could be worth up to £20 million for capital projects here in Aberconwy.
That means things like buildings and assets, rather than wages, staff, rental costs etc. Aberconwy is actually a priority area (see images).
There is also an extra £20 million available just for transport improvements in Conwy.
CAN WE RECOVER?
Yes! We have such fantastic natural resources - a beautiful natural environment, long and varied heritage and rich culture - that there is no doubt we will recover. People will always want to visit and live here.
However, I have always felt that governments (all levels and all parties) overstate their role in economic performance, after all it is the hard work and ideas of business - their innovation and enterprise - that drive economies.
What government can do is help set a favourable regulatory environment which rewards enterprise and helps those ideas flourish. It can also provide support to reduce obstacles, equalise oportunity and more.
In fact the pandemic has demonstrated powerfully how the UK government has provided grants, loans and support directly to thousands of businesses and individuals in Aberconwy - and the extra funding it has provided the Welsh government for them to offer additional grants and loans.
The Levelling Up Fund is one of the ways the UK government is helping.
SO WHAT IS IMPORTANT?
As your MP, I have met with Cllr Emery and senior officers to discuss what this all means.
I have encouraged them to consider three things when they decide what bids to submit to UK government:
1. Are these ideas things our communities will understand?
In my own experience of local government I learned that community cooperation is vital to the success of any project. Many a project and a lot of money that "seemed like a good idea" in the office simply has not had the desired effect because the community didn't have the same view about what was important. The good relationships Councillors have with their communities are a key to this.
2. How can we get the private sector involved?
This is a simple point: if a lot of money is being invested in Aberconwy, is there an opportunity to increase its value by involving the private sector? Like the previous point, this does take more time and effort, but if it can bring in additional money then it is worth it - even an extra 10% on a £20 million bid would be worth up to £2 million more.
3. Finally, does it tackle the big issues we face?
What are the things we know we will have to deal with at some point? Is there anything we can do about them? Can we use this money to get started?
One of the biggest challenges I think we face is the impact of climate change - especially the threat of rising tides along the coast and flooding up the valley. There is support pledged from Welsh government but is there something we can do to work with them on this using this money?
Another one is something we could call "rebalancing" our economy. We have a fabulous local offer which people come from all over the world to see. It is important we continue to invest in this and I hope we can see it recover and even surpass what we have seen before.
But it is not balanced. Our tourism sector has been devastated by the pandemic as most of our jobs are tied up with retail, hospitality - catering, events, travel and accommodation. We need at some point to think about what alternative employment we try and encourage here. So alongside reviving our tourism offer, we need to think about other businesses we might want to attract, or how to encourage them.
A third issue which overlaps both of these is ensuring visitors have a great experience of their visit to Aberconwy and their travel around in particular. Travel and congestions raise really important environmental questions and impact on quality of life as well as health and accessibility. Managing this sustainably is a big questions - especially with a large proportion of Aberconwy in Snowdonia.
WHAT NEXT?
I am sure you will agree there is plenty there to chew on over the coming months.
I look forward to seeing more details on the council's schemes and will do all I can to help them in their work.
I am also very interested to hear your views - do feel free to email me
Aberconwy a’r Gronfa Codi’r Gwastad
Llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Charlie McCoubrey ar gael ei ethol yr wythnos ddiwethaf yn arweinydd Cyngor Bwrdeistref Conwy – ac wrth gwrs, i’r Cynghorydd Sam Rowlands sydd wedi camu o’r rôl hwnnw i ymgymryd â’i rôl newydd fel Aelod Rhanbarth Gogledd Cymru yn y Senedd.
Mae gan dîm newydd y Cynghorydd McCoubrey rôl hanfodol wrth gyflenwi rhai o wasanaethau cyhoeddus mwyaf pwysig Conwy ac rwyf yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw a chynnig unrhyw gefnogaeth posib dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.
Un person, rwyf eisoes yn gweithio â hi yw’r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Louise Emery sy’n gyfrifol am y portffolio Datblygu Economaidd a Hamdden. Mae’r portffolio hwn yn eithriadol o bwysig wrth i ni lunio cynllun i ddianc o’r dirywiad economaidd o ganlyniad i’r pandemig.
Mae pethau wedi bod yn ansicr trwy’r pandemig a dydy hyn ddim yn newid wrth i’r cyfyngiadau lacio. Dydy popeth ddim yn mynd yn ôl y disgwyl ac mae Aberconwy yn wynebu sialensiau enfawr – yn enwedig gan fod ein sector twristiaeth mor fregus pe bai’n wynebu pandemig arall.
Felly, ambell i sylw sydyn yn ymwneud ag adferiad yn Aberconwy.
MAE GENNYM Y CYFLE I “GODI’R GWASTAD”
Roedd maniffesto’r llywodraeth yn cynnwys addewid i “godi’r gwastad” ym mhob rhan o’r DU. Golyga hyn fuddsoddi mewn ardaloedd sydd ddim wedi cael cyllid – a phrofi gwelliannau o’i herwydd.
Y gair allweddol yma yw buddsoddiad. Nid yw hyn yn golygu rhyddhau llif arian y cyngor na chynyddu’r balans yn y banc. Nid yw chwaith ar gyfer yr hyn y byddai rhywun efallai yn ei alw’n “busnes fel arfer”.
Felly, gwnaethpwyd cyhoeddiad am Gronfa Codi’r Gwastad newydd gan y llywodraeth rai wythnosau’n ôl – rwyf o’r farn y bydd yn gyfle gwych ac yn hwb aruthrol i Aberconwy.
(Mae yna gronfa ar wahân o’r enw Cronfa Adfywio Cymunedol gan lywodraeth y DU y mae’r cyngor yn ei weinyddu. Dwi’n gwybod bod llawer o grwpiau wedi gwneud cais i’r gronfa hon a gallaf siarad am hyn mewn post ar-wahân).
FAINT O GODI’R GWASTAD SY’N MYND I DDIGWYDD?
Yn nhermau ariannol, gallai fod yn werth £20 miliwn i brosiectau cyfalaf yma yn Aberconwy. Mae hyn yn golygu pethau fel adeiladau ac asedau yn hytrach na chyflogau, staff, costau llogi ayyb.
A dweud y gwir, mae Aberconwy yn ardal flaenoriaeth (gweler y delweddau).
Mae yna hefyd £20 miliwn yn ychwanegol ar gael dim ond ar gyfer gwelliannau trafnidiaeth yng Nghonwy.
YDYN NI’N GALLU ADFER?
Ydyn! Mae gennym ni adnoddau naturiol mor ardderchog - amgylchedd naturiol a hardd, treftadaeth hir ac amrywiol a diwylliant cyfoethog - heb os nac oni bai, fe wnawn ni adfer. Bydd pobl eisiau ymweld a byw yma.
Er hynny, rwyf wedi bod o’r farn erioed, bod llywodraethau (ar bob lefel a phob plaid)
yn gorbwysleisio eu rôl mewn perfformiad economaidd, wedi’r cyfan gwaith caled a syniadau busnesau - eu harloesedd a’u menter - sy’n gyrru economïau.
Yr hyn y gall y llywodraeth ei wneud i helpu yw sefydlu amgylchedd rheoleiddiol ffafriol sy’n gwobrwyo menter and yn helpu’r syniadau hynny i ffynnu. Gall hefyd gynnig cefnogaeth er mwyn lleihau rhwystrau, cydraddoli cyfleoedd a rhagor.
A dweud y gwir, mae’r pandemig wedi dangos i ni’n glir sut mae llywodraeth y DU wedi darparu grantiau, benthyciadau a chefnogaeth uniongyrchol i filoedd o fusnesau ac unigolion yn Aberconwy - ac mae’r cyllid ychwanegol wedi caniatáu Llywodraeth Cymru i gynnig grantiau a benthyciadau ychwanegol.
Mae’r Gronfa Codi’r Gwastad yn un o’r ffyrdd mae’r llywodraeth yn helpu.
FELLY, BETH SY’N BWYSIG?
Fel eich AS, rwyf wedi cwrdd â’r Cynghorydd Emery ac uwch-swyddogion i drafod yr hyn mae hyn i gyd yn ei olygu. Rwyf wedi eu hannog i ystyried tri pheth pan fyddan nhw’n penderfynu pa gynigion i’w hargymell i lywodraeth y DU:
1. Ydy’r syniadau hyn yn bethau y byddai ein cymunedau yn eu deall?
O ganlyniad i fy mhrofiad fy hun o lywodraeth leol, rwyf wedi dysgu bod cydweithrediad cymunedol yn hollbwysig i lwyddiant unrhyw brosiect. Yn syml, nid yw sawl prosiect na photiau o arian a “oedd yn ymddangos fel syniad da yn y swyddfa” wedi cael yr effaith a obeithiwyd achos doedd y gymuned ddim yn rhannu’r farn ynghylch yr hyn oedd yn bwysig. Mae’r cysylltiadau da sydd gan y cynghorwyr â’u cymunedau yn allweddol i hyn.
2. Sut allwn ni sicrhau ymrwymiad y sector preifat?
Mae hwn yn bwynt syml: os oes llawer o arian yn cael ei fuddsoddi yn Aberconwy, oes yna gyfle i gynyddu ei werth drwy sicrhau ymrwymiad y sector preifat? Fel y pwynt blaenorol, mae hyn yn golygu gwario mwy o arian a threulio mwy o amser, ond os yw’n gallu dod ag arian ychwanegol yna mae’n werth y drafferth – byddai hyd yn oed 10% yn ychwanegol ar gais £20 miliwn yn werth hyd at £2 filiwn yn ychwaneg.
3. Yn olaf, ydy hyn yn taclo’r materion enfawr rydym yn eu hwynebu?
Beth ydy’r pethau rydym yn gwybod y byddwn ni’n gorfod delio â nhw ar ryw bwynt? Ydyn ni’n gallu defnyddio’r arian i ddechrau arni?
Yn fy marn i, un o’r sialensiau mwyaf rydym yn ei wynebu ydy effaith newid yn yr hinsawdd - yn arbennig y bygythiad bydd lefelau’r môr yn codi ar hyd yr arfordir a llifogydd fyny’r dyffryn. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd cefnogaeth ar gael, ond oes unrhyw beth y gallwn ni ei wneud i weithio gyda nhw ar hyn drwy wneud defnydd o’r arian yma?
Un mater arall yw rhywbeth y gallem ei alw’n “ail-gydbwyso’r” economi. Mae gennym gynnig lleol ardderchog y gall pobl ar draws y byd ddod i’w weld. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi yn hyn ac rwyf yn gobeithio gweld adferiad neu hyd yn oed ragori ar yr hyn rydym wedi ei weld o’r blaen. Ond nid oes cydbwysedd. Mae ein sector twristiaeth wedi cael ei ddistrywio gan y pandemig gan fod y rhan fwyaf o’n swyddi yn gysylltiedig â manwerthu, lletygarwch, arlwyo, digwyddiadau, teithio a llety. Ar ryw bwynt, rydym angen datblygu swyddi gwahanol yma. Felly, ochr yn ochr ag adfywio ein cynnig twristiaeth, rydym angen meddwl am fusnesau eraill y byddwn ni efallai eisiau eu denu, neu ystyried sut i’w hannog.
Trydydd mater sy’n gorgyffwrdd yw sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad gwych wrth ymweld ag Aberconwy ac yn arbennig eu dull o deithio o gwmpas. Mae teithio a thagfeydd yn codi cwestiynau amgylcheddol pwysig iawn ac yn cael effaith ar iechyd a hygyrchedd. Mae rheoli hyn mewn ffordd gynaliadwy yn codi cwestiwn mawr – yn arbennig gyda chyfran fawr o Aberconwy yn Eryri.
BETH NESAF?
Dwi’n siŵr eich bod yn cytuno bod digon gennym i gnoi cil drosto dros y misoedd nesaf.
Edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion am gynlluniau’r cyngor a byddaf yn gwneud yr hyn y gallaf i’w helpu gyda’u gwaith.
Mae gennyf ddiddordeb hefyd, mewn clywed eich safbwyntiau chi - mae croeso i chi anfon e-bost ataf.