On Saturday morning it was great to meet up with Llinos Davies and members of the GOGs (Great Orme Goats) triathlon club (and a few co-opted family members!)
Llinos has been cleaning up behind Coed y Gaer throughout lockdown and had organised a group of us to go up there again as a part of the Cadwch Cymru Daclus ("Keep Wales Tidy") effort this week.
It looked like yet another party had happened. Really sad to see the mess in such a beautiful place and especially the thousands of pieces of broken glass - as Llinos said:
"I understand we've been through the lockdown and we were all young once - but we can still clear up after ourselves. It's heartbreaking to see this - and the broken glass is just dangerous."
Hundreds of empty glass bottles. A broken chair, broken tent poles, a sleeping bag and all sorts of other litter had been left behind in the woods.
In three hours twenty five bags of rubbish were filled and removed.
The location has been flagged with the police now for monitoring.
My thanks to all those who helped Llinos make it happen: to Richard Thomas of Mostyn Estates who looks after this SSSI (Site of Special Scientific Interest) and came along. Also St David's College who allowed us access through their land and to Cllr. Greg Robbins of Conwy County Council who provided the equipment - and Dave Farrell who came to collect the bags when we were done!
This is a great example of what can be done when we work together. Proud to be a part of today's effort and the club working for the community!
Thanks, Llinos! Dal ati!
Cadwch Gymru'n Daclus a mwy...
Fore dydd Sadwrn, roedd hi’n braf cael cwrdd â Llinos Davies ac aelodau glwb triathlon GOG (Great Orme Goats) (ac ambell aelod o’r teulu ehangach!)
Mae Llinos wedi bod yn glanhau y tu ôl i Goed y Gaer yn ystod y cyfnod clo ac roedd hi wedi trefnu bod grŵp ohonom ni’n mynd yno eto fel rhan o ymdrech Cadwch Gymru’n Daclus yr wythnos hon.
Roedd hi’n edrych fel pe bai parti arall wedi digwydd eto. Mae’n drist iawn gweld y llanast mewn lle mor brydferth ac yn enwedig y miloedd o ddarnau o wydr wedi torri – fel dywedodd Llinos:
“Rydw i’n deall ein bod ni wedi bod drwy’r cyfnod clo ac roedden ni i gyd yn ifanc unwaith – ond rydyn ni’n dal yn gallu clirio ar ôl ein hunain. Mae’n dorcalonnus gweld hyn – ac mae’r gwydr wedi torri yn beryglus.”
Cannoedd o boteli gwydr gwag. Roedd cadair wedi torri, polion pebyll wedi torri, sach gysgu a phob math o sbwriel arall wedi cael ei adael yn y coed.
Mewn tair awr, cafodd pum bag ar hugain o sbwriel eu llenwi a’u symud.
Mae’r lleoliad bellach wedi cael ei nodi gan yr heddlu ar gyfer ei fonitro.
Diolch i bawb a helpodd Llinos gyda’r prosiect hwn: Richard Thomas o Ystadau Mostyn sy’n gofalu am y SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) hwn ac a ddaeth gyda ni. Hefyd Coleg Dewi Sant a roddodd ganiatâd i ni gael mynediad drwy eu tir ac i’r Cynghorydd. Greg Robbins o Gyngor Sir Conwy a ddarparodd yr offer – a Dave Farrell a ddaeth i gasglu’r bagiau ar ôl i ni orffen!
Mae hon yn enghraifft wych o beth gallwn ni ei wneud pan fyddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Rydw i’n falch o fod yn rhan o’r ymdrech heddiw ac o'r clwb sy’n gweithio dros y gymuned!
Diolch, Llinos! Dal ati!