Dathlodd Virginia Crosbie, AS Ynys Môn, Ddydd Gŵyl Dewi drwy hyrwyddo entrepreneuriaid a busnesau’r wlad mewn dau ddigwyddiad uchel eu proffil yn Llundain.
Ymunodd Virginia a Simon Hart Ysgrifennydd Cymru ag Aelodau Seneddol eraill o Gymru yn Lancaster House ar gyfer y digwyddiad Blas ar Gymru nos Lun
Roedd y digwyddiad yn arddangos rhai o’r bwyd a diod gorau sydd gan Gymru i’w cynnig.
Roedd hefyd yn gyfle i westeion gwrdd â rhai o gynhyrchwyr enwocaf Cymru, dysgu mwy am eu cynnyrch a blasu detholiad o’r cynnyrch Cymreig gorau un.
Ar y diwrnod, aeth Virginia i 10 Stryd Downing i gyflwyno Gweinidogion Cymru i nifer o entrepreneuriaid ac arweinwyr cymunedol Ynys Môn, gan gynnwys Dafydd Gruffydd o Fenter Môn.
Roedd côr o Gymru yn canu ac roedd crefftau Cymreig yn cael eu harddangos,
“Roedd hi’n brysur, ond yn ddiwrnod Gŵyl Dewi buddiol iawn i mi, gan fy mod i wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i dynnu sylw at y cynnyrch gwych a’r ysbryd mentrus sydd gennym ar Ynys Môn ac ar draws y wlad,” meddai Virginia.
“Roedd y ddau ddigwyddiad yn dda iawn ac fe wnaethon nhw wir gyfleu’n llwyddiannus bod gan Gymru gymaint i’w gynnig o ran cynnyrch sydd gyda’r gorau yn y byd, a pherchnogion busnes gwladgarol sy’n awchus i fasnachu ledled y byd.
“Roedd hi’n arbennig o braf cael cwrdd â phobl leol yn Stryd Downing sy’n helpu i yrru ein heconomi leol yma ar yr ynys.
“Yn sicr, roedd hi’n Ddydd Gŵyl Dewi Hapus.”
Bu Virginia hefyd mewn Eisteddfod a drefnwyd gan Fay Jones, Hywel Williams a Beth Winter, ASau Cymru, yn Ystafelloedd Gwladol Tŷ’r Llefarydd yn Nhŷ’r Cyffredin.
Roedd y digwyddiad yn dathlu treftadaeth a diwylliant Cymru drwy amrywiaeth o gerddorion o Gymru yn perfformio mewn ysbryd eisteddfodol, ac yna cafwyd derbyniad.