Sam Rowlands MS for North Wales fears Welsh Government actions will force tourism business to go bust.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government and chair of the Cross-Party Group on Tourism was speaking in the Senedd on the ‘Motion to annul the Non-Domestic Rating (Amendment of Definition of Domestic Property) (Wales) Order 2022’.
He said:
I would like to outline how important the tourism industry is to Wales, as it is really clear to me that Welsh Government simply do not understand this.
Tens of millions of visitors spend their money, which contributes around £6 billion to our economy every single year and supports around 12% of jobs here in Wales, boosting livelihoods and local communities.
I would like to focus on three key areas about why the motion needs to be supported. Firstly, self-catering properties will now be required to be let for 182 days—a 160 % increase.
As we know many will not be able to meet this demand. And what will happen if they don't? They are going to face around a £6,000 tax bill every year.
The second point is that, as we continue to see many people now tightening their belts. Now is not the time to make these businesses struggle. We need to support them, to see them thrive and survive.
The third point, and the most disappointing part, is that the industry would have accepted an increase in occupancy. They are willing to work with Government to make this happen.
It is ridiculous that these self-catering businesses will now have to meet these changes with no transition available whatsoever. The Welsh Government should be here to support businesses to allow them to thrive and not damage them.
After the motion was defeated Mr Rowlands added:
I am extremely disappointed that Labour and Plaid MSs voted against annulling the 182 day holiday let order. This will have a detrimental impact on their constituents. Only Welsh Conservatives support and recognise the importance of the tourism industry in our local communities.
Sam Rowlands AS yn pleidleisio i achub y Diwydiant Twristiaeth
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru yn ofni y bydd camau Llywodraeth Cymru yn gorfodi busnesau twristiaeth i fynd i’r wal.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig a chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn siarad yn y Senedd ar y ‘Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022’.
Meddai:
Hoffwn amlinellu pa mor bwysig yw’r diwydiant twristiaeth i Gymru, gan ei bod yn glir iawn i mi nad yw Llywodraeth Cymru yn deall hyn.
Mae degau o filiynau o ymwelwyr yn gwario eu harian, sy’n cyfrannu oddeutu £6 biliwn at ein heconomi bob blwyddyn ac yn cynnal tua 12% o swyddi yma yng Nghymru, gan hybu bywoliaeth pobl a chymunedau lleol.
Hoffwn ganolbwyntio ar dri maes allweddol sy’n ymwneud â pham mae angen cefnogi’r cynnig. Yn gyntaf, bydd angen i eiddo hunanarlwyo gael eu gosod am 182 diwrnod yn awr – sy’n gynnydd o 160%.
Fel y gwyddom ni fydd llawer yn gallu bodloni’r gofyniad hwn. A beth fydd yn digwydd os nad ydynt? Byddant y wynebu bil treth o tua £6,000 y flwyddyn.
Yr ail bwynt, wrth i ni barhau i weld llawer o bobl yn gorfod cyfyngu ar eu gwario, nid nawr yw’r amser i wneud i’r busnesau hyn wynebu anawsterau. Mae angen i ni eu cefnogi, eu gweld yn ffynnu a goroesi.
Y trydydd pwynt, a’r rhan fwyaf siomedig, yw y byddai’r diwydiant wedi derbyn cynnydd mewn cyfraddau llenwi. Maent yn barod y weithio gyda’r Llywodraeth i wneud i hyn ddigwydd.
Mae’r hurt y bydd y busnesau hunanarlwyo hyn yn gorfod wynebu’r newidiadau hyn heb unrhyw bontio o gwbl ar gael. Dylai Llywodraeth Cymru fod yma i gefnogi busnesau i’w galluogi i ffynnu ac nid i’w difrodi.
Ar ôl i’r cynnig gael ei drechu, ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy’n siomedig iawn fod Aelodau Llafur a Phlaid Cymru’r Senedd wedi pleidleisio yn erbyn dirymu’r gorchymyn llety gwyliau 182 diwrnod. Bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar eu hetholwyr. Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n cefnogi a deall pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth yn ein cymunedau lleol.