Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed news of extra funding for a children’s hospice in his region.
Mr Rowlands, who has been campaigning for more money for the charity since he was elected, said he was delighted with the Welsh Government announcement that the local hospice, was to receive a share of £888k along with Tŷ Hafan’s childrens hospice in South Wales.
He said:
Since becoming a Member of the Senedd, one of the first things I did was meet with and visit Tŷ Gobaith in my region, North Wales, who, alongside Tŷ Hafan, do carry out exceptional work in supporting young patients and their loved ones. I have been really taken aback by the work that they offer and provide.
One of the huge concerns that they raised with me was this lack of funding from Government, and, therefore, I'm really pleased that cross-party support in relation to this lack of funding has led to Government today announcing a reform of hospice funding.
I welcome this long-awaited funding, which is a good start, to acknowledge the importance of this work and make a real difference to the support that hospices can provide to people.
After a visit to Tŷ Gobaith he said he was disappointed to learn that Wales was lagging behind the rest of the UK with public funding for children’s hospices and called for more money to help them.
He said:
I have been campaigning for fairer funding for hospices since I was elected in May last year and I am absolutely delighted with the announcement.
Increasing the financial support made available to children’s hospices to the levels needed for places like Tŷ Gobaith to continue their excellent work will cost the Welsh Government around £1 million.
This is a tiny amount compared to the Welsh Government’s total health and social care budgets which are in excess of billions of pounds. I am glad to see more money has been found.
Sam Rowlands AS yn croesawu cynnydd yn y cyllid ar gyfer hosbis plant Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy.
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi croesawu’r newyddion y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer hosbis plant yn ei ranbarth.
Dywedodd Mr Rowlands, sydd wedi bod yn ymgyrchu am fwy o arian i'r elusen ers iddo gael ei ethol, ei fod wrth ei fodd gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai'r hosbis leol yn derbyn cyfran o £888,000 ynghyd â hosbis plant Tŷ Hafan yn y De.
Dywedodd:
Ers dod yn Aelod o'r Senedd, un o'r pethau cyntaf wnes i oedd ymweld â Tŷ Gobaith a chwrdd â phobl yno. Ochr yn ochr â Tŷ Hafan, mae’r hosbis yn gwneud gwaith arbennig wrth gefnogi cleifion ifanc a'u hanwyliaid. Cefais gryn syndod i weld yr holl waith maen nhw'n ei gynnig a'i ddarparu.
Un o'r pryderon enfawr wnaethon nhw godi gyda mi oedd diffyg cyllid gan y Llywodraeth, ac, felly, rwy'n falch iawn bod cefnogaeth drawsbleidiol mewn perthynas â'r diffyg cyllid hwn wedi arwain at gyhoeddiad y Llywodraeth heddiw y bydd yn diwygio cyllid yr hosbis.
Rwy'n croesawu'r cyllid hirddisgwyliedig hwn, sy'n ddechrau da, i gydnabod pwysigrwydd y gwaith hwn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r cymorth y gall hosbisau ei roi i bobl.
Ar ôl ymweld â Tŷ Gobaith dywedodd ei fod yn siomedig o glywed bod Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU yn achos cyllid cyhoeddus ar gyfer hosbisau plant, a galwodd am fwy o arian i'w helpu.
Dywedodd:
Rwyf wedi bod yn ymgyrchu dros gyllid tecach i hosbisau ers i mi gael fy ethol ym mis Mai y llynedd ac rwyf wrth fy modd gyda'r cyhoeddiad.
Bydd cynyddu'r cymorth ariannol sydd ar gael i hosbisau plant i'r lefelau sydd eu hangen er mwyn i leoedd fel Tŷ Gobaith barhau â'u gwaith rhagorol yn costio tua £1 miliwn i Lywodraeth Cymru.
Mae'n swm bach iawn o gymharu â chyfanswm cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy'n fwy na biliynau o bunnoedd. Rwy'n falch o weld bod mwy o arian wedi'i ganfod.