Sam Rowlands, MS for North Wales is calling for fairer funding of children’s hospices in Wales.
During a visit to Ty Gobaith’s children’s hospice in the Conwy Valley, he said he fully supported their Lifeline Fund campaign.
Ty Gobaith is largely funded through donations with less than 10% of their funding coming from the Welsh Government, while in England it is 21%, Northern Ireland 25% and Scotland 50%.
Sam said:
I was disappointed to learn that Wales is lagging behind the rest of the UK with public funding for children’s hospices.
Ty Gobaith is one of only two children’s hospices in Wales, and I gladly back any initiative for more money for places like this.
I understand that increasing the financial support made available to children’s hospices to the levels that Tŷ Gobaith would like to see would cost the Welsh Government around £1 million. This is a tiny amount compared to the Welsh Government’s total health and social care budgets which are in excess of billions of pounds. I’m sure the extra funding could be found somewhere.
Being able to see at first hand all the hard work which goes into running such a facility was truly humbling and I was so impressed with what I saw.
The hospice also offers a Key Worker initiative which sees a member of staff being allocated to families to help them access support. This is a great scheme and invaluable to those who need support at a very stressful time.
Ty Gobaith and South Wales based Ty Hafan Children’s Hospices have joined forces to ask the Welsh Government for a sustainable ‘Lifeline Fund’ to give them funding equality with the rest of the UK. This will ensure all Welsh children with life-limiting conditions and their families can receive the support they desperately need.
Ty Gobaith and Ty Hafan, between them provide respite and palliative care for over 450 families with terminally ill children.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch i sicrhau cyllid tecach i hosbisau
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn galw am gyllid tecach i hosbisau plant yng Nghymru.
Yn ystod ymweliad â hosbis plant Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy, dywedodd ei fod yn cefnogi ymgyrch Cronfa Achubiaeth yr hosbis.
Rhoddion yw prif ffynhonnell cyllid Tŷ Gobaith, ac mae llai na 10% o'i gyllid yn dod o Lywodraeth Cymru. Mewn cyferbyniad, mae hosbisau plant yng ngweddill y DU yn derbyn mwy o arian cyhoeddus - 21% yn Lloegr, 25% yng Ngogledd Iwerddon a 50% yn yr Alban.
Meddai Sam:
Mae'n destun siom i mi fod llai o arian cyhoeddus yn cael ei ddyrannu i hosbisau plant yng Nghymru o'i gymharu â gweddill y DU.
Mae Tŷ Gobaith yn un o ddim ond dwy hosbis plant yng Nghymru, ac rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw fenter i sicrhau mwy o arian ar gyfer llefydd fel hyn.
Mae'n debyg y byddai cynyddu'r cymorth ariannol sydd ar gael i hosbisau plant i'r lefelau y mae Tŷ Gobaith am eu sicrhau yn costio tua £1 miliwn i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn swm bach iawn o'i gymharu â chyfanswm cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy'n fwy na biliynau o bunnoedd. Rwy'n siŵr y gellid dod o hyd i'r arian ychwanegol yn rhywle.
Roedd y cyfle i weld yr holl waith da sy’n cael ei wneud yn y cyfleuster yn brofiad bythgofiadwy, ac roedd yr hyn a welais wedi creu argraff fawr arnaf.
Hefyd, mae'r hosbis yn cynnig menter Gweithiwr Allweddol, lle mae aelod o staff yn cael ei neilltuo i deuluoedd i'w helpu i gael gafael ar gymorth. Mae hwn yn gynllun gwych sy'n hynod ddefnyddiol i'r rhai sydd angen cymorth ar adeg anodd iawn.
Mae Tŷ Gobaith wedi cydweithio â'r hosbis plant Tŷ Hafan yn y De i ofyn i Lywodraeth Cymru am 'Gronfa Achubiaeth' gynaliadwy i sicrhau cydraddoldeb ariannu â gweddill y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod plant yng Nghymru sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu bywydau, a'u teuluoedd, yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ddirfawr.
Mae Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan yn darparu gofal seibiant a gofal lliniarol i dros 450 o deuluoedd sydd â phlant â salwch angheuol.