Sam Rowlands MS for North Wales is calling for more to be done to attract businesses and jobs to Bryn Cegin Park in Bangor.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Minister expressed his concern over the lack of investment.
He said:
It is deeply concerning that over 20 years ago the Bryn Cegin Park site was built, but since then it has laid empty. This could have been a fantastic opportunity to create more high-quality jobs in Bangor, and give a real boost to the North Wales economy as a whole.
The last time this issue was raised, the Minister for North Wales stated that Welsh Government officials were working very closely with the North Wales economic ambition board to continue to explore investment and job opportunities at the site and continued to work with Gwynedd Council. This is positive news but I am sure everyone would agree this is far too late.
Mr Rowlands asked the Welsh Government what action had been taken to ensure North Wales would not miss out on job opportunities in the future.
He commented:
I am really disappointed with this situation. It is simply not good enough and I just hope Welsh Government have learnt lessons from this fiasco. There was a fantastic opportunity to bring jobs to North Wales which are sorely needed.
Welsh Government needs to make sure opportunities like this are not missed again.
Sam Rowlands AS yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau nad ydynt yn colli cyfleoedd gwaith yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn galw am wneud mwy i ddenu busnesau a swyddi i Barc Bryn Cegin ym Mangor.
Wrth siarad yn y Senedd, mynegodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid, ei bryder ynghylch y diffyg buddsoddiad.
Dywedodd y canlynol:
Mae’n destun pryder mawr bod safle Parc Bryn Cegin wedi’i adeiladu dros 20 mlynedd yn ôl, ond ers hynny mae wedi aros yn wag. Gallai hyn wedi bod yn gyfle gwych i greu mwy o swyddi o ansawdd uchel ym Mangor, a rhoi hwb gwirioneddol i economi Gogledd Cymru yn gyffredinol.
Y tro diwethaf i’r mater hwn gael ei godi yn y Siambr, nodaf fod Gweinidog Gogledd Cymru wedi dweud bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda bwrdd uchelgais economaidd Gogledd Cymru i barhau i ystyried cyfleoedd buddsoddi a swyddi ar y safle, a’u bod yn parhau i weithio gyda Chyngor Gwynedd. Mae hyn yn newyddion cadarnhaol ond rwy'n siŵr y byddai pawb yn cytuno ei fod yn llawer rhy hwyr.
Gofynnodd Mr Rowlands i Lywodraeth Cymru pa gamau a gymerwyd i sicrhau na fyddai Gogledd Cymru yn colli cyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Dywedodd:
Rwy'n siomedig iawn gyda'r sefyllfa hon. Nid yw'n ddigon da ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi dysgu gwersi yn sgil y methiant hwn. Roedd yn gyfle gwych i ddod â swyddi i Ogledd Cymru y mae mawr eu hangen.
Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw cyfleoedd fel hyn yn cael eu colli eto.