The Boundary Commission for Wales today published their proposals for changing the boundaries of UK Parliamentary constituencies in Wales.
The proposals retain the seat of Aberconwy – but extend the existing constituency boundaries.
- The number of voters rises by 25,873 voters from 44,000 to 69,909
- To the east the proposed boundaries now take in Mochdre, Llandrillo yn Rhos, Llangernyw down to Glasfryn, Llangwm and Maerdy.
- To the west the proposed boundaries encompass Bangor as far south as Hendre, Dewi and Glyder wards as well as Gerlan, Ogwen and Tregarth & Mynydd Llandegai wards.
The Commission undertakes a periodic review of constituency boundaries. This takes into account natural changes in population through births, deaths as well as new building. This time it is also seeking to standardise the size of constituencies throughout the United Kingdom so that each MP represents roughly the same number of people.
The Boundary Commission for Wales, like its counterparts in England, Scotland and Northern Ireland, has sought to ensure that constituencies must have no less than 69,724 Parliamentary electors and no more than 77,062. Similar proposals for English constituency boundaries were published some months ago – Scotland and Northern Ireland are still to follow.
At present, constituencies across Wales range from 39,000 voters in Arfon (the smallest constituency in the mainland United Kingdom) to 79,000 in Cardiff South and Penarth. That means the average constituency size in Wales is lower than those throughout the rest of the United Kingdom.
This means that, historically, Wales has been significantly overrepresented in Parliament – it has had more MPs representing fewer people than other parts of the UK. These proposals, if adopted means the number of MPs in Wales will drop from 40 to 32.
Standardising the size of constituencies is crucial for the viability of a healthy parliamentary democracy as it means that every vote carries equal value.
With a turnout of 66.5% across Wales at the 2019 General Election it is clear that UK General Elections have by far the highest turnouts in Wales. It is crucial that elections are made as fair as possible.
The Boundary Commission is independent of parliament and Members of Parliament have played no role in drawing the new boundary proposals.
Robin Millar MP for Aberconwy said:
“I welcome this review that seeks to bring more equality and fairness to our democracy.”
“With only 44,000 registered voters at the 2019 General Election it was always clear that Aberconwy would have to change. I will now discuss it closely with colleagues and am keen to hear from residents on their views also.”
“It is important to remember that these are initial proposals, put forward by the independent Boundary Commission for Wales, and that they will be subject to a preliminary eight-week consultation, closing on 3rd November 2021.”
“On a personal note, this area is my home – it is where I was born, raised, went to school and have my home. I could not be more proud to be here and be its representative in Westminster. Nothing in these proposals changes that and my focus remains on working hard for constituents and their best interests.”
“I would encourage all those who wish to have their say on the proposals put forward by the Commission to participate with the consultation by visiting the Commission’s consultation portal at: https://www.bcw-reviews.org.uk/
“I will also arrange for a copy to be held in my office in Conwy if anyone wishes to arrange an appointment to view them there.”
The proposals are available to view on the Boundary Commission for Wales' website and the consultation portal is now open.
_________________
Datganiad Robin ar y Cynigion Newid Ffiniau
Heddiw, cyhoeddodd Comisiwn Ffiniau i Gymru ei gynigion ar gyfer newid ffiniau etholaethau Seneddol y DU yng Nghymru.
Mae’r cynigion yn cadw sedd Aberconwy – ond yn ymestyn ffiniau’r etholaeth.
- Mae nifer y pleidleiswyr yn cynyddu 25,873, sef o 44,000 i 69,909
- I’r dwyrain mae’r ffiniau arfaethedig yn golygu cynnwys Mochdre, Llandrillo yn Rhos, Llangernyw i lawr i Lasfryn, Llangwm a Maerdy.
- I’r gorllewin mae’r ffiniau arfaethedig yn golygu cynnwys Bangor mor bell i’r de â wardiau Hendre, Dewi a Glyder yn ogystal â wardiau Gerlan, Ogwen a Thregarth a Mynydd Llandegai.
Mae’r Comisiwn yn adolygu ffiniau etholaethau bob hyn a hyn. Mae hyn yn ystyried newidiadau naturiol yn y boblogaeth drwy enedigaethau, marwolaethau yn ogystal ag adeiladau newydd. Y tro hwn, mae hefyd yn ceisio safoni maint etholaethau ledled y Deyrnas Unedig fel bod pob AS yn cynrychioli tua’r un nifer o bobl.
Mae Comisiwn Ffiniau i Gymru, fel ei gymheiriaid yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi ceisio sicrhau bod rhaid i etholaethau gael dim llai na 69,724 o etholwyr Seneddol, a dim mwy na 77,062. Cyhoeddwyd cynigion tebyg ar gyfer ffiniau etholaethau Lloegr rai misoedd yn ôl – nid yw’r Alban a Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi os ydynt am ddilyn yr un egwyddor hyd yma.
Ar hyn o bryd, mae etholaethau ledled Cymru yn amrywio o 39,000 o bleidleiswyr yn Arfon (yr etholaeth leiaf ar dir mawr y Deyrnas Unedig) i 79,000 yn Ne Caerdydd a Phenarth. Mae hynny’n golygu bod maint cyfartalog etholaethau yng Nghymru yn is na’r rheini yng ngweddill y Deyrnas Unedig.
Yn hanesyddol, golyga hyn bod Cymru wedi cael ei gorgynrychioli’n sylweddol yn y Senedd – mae wedi cael mwy o Aelodau Seneddol yn cynrychioli llai o bobl na rhannau eraill o’r DU. Mae’r cynigion hyn, os cânt eu mabwysiadu, yn golygu y bydd nifer yr Aelodau Seneddol yng Nghymru yn gostwng o 40 i 32.
Mae safoni maint etholaethau yn hanfodol ar gyfer hyfywedd democratiaeth seneddol iach gan ei bod yn golygu bod gwerth cyfartal i bob pleidlais.
Gyda 66.5% wedi pleidleisio ledled Cymru yn Etholiad Cyffredinol 2019, mae’n amlwg mai Etholiadau Cyffredinol y DU sydd â’r nifer uchaf o bobl yn pleidleisio yng Nghymru o bell ffordd. Mae’n hanfodol bod etholiadau mor deg â phosib.
Mae’r Comisiwn Ffiniau’n annibynnol ar y senedd ac nid yw Aelodau Seneddol wedi chwarae unrhyw ran yn y gwaith o lunio’r cynigion ffiniau newydd.
Dywedodd Robin Millar, AS Aberconwy:
“Rwy’n croesawu’r adolygiad hwn sy’n ceisio dod â mwy o gydraddoldeb a thegwch i’n democratiaeth.”
“Gyda dim ond 44,000 o bleidleiswyr cofrestredig yn Etholiad Cyffredinol 2019 roedd hi wastad yn amlwg y byddai’n rhaid i Aberconwy newid. Byddaf yn awr yn trafod y mater yn fanwl gyda chyd-weithwyr ac rwy’n awyddus i glywed gan drigolion am eu barn hefyd.”
“Mae’n bwysig cofio mai cynigion cychwynnol a gyflwynwyd gan Gomisiwn Ffiniau annibynnol Cymru yw ‘r rhain, ac y byddant yn destun ymgynghoriad cychwynnol a fydd yn para wyth wythnos. Daw’r ymgynghoriad i ben 3 Tachwedd 2021.”
“Ar nodyn personol, fy nghartref i yw’r ardal hon – dyma lle ges i fy ngeni, fy magu, mynd i’r ysgol a sefydlu cartref. Ni allwn fod yn fwy balch o fod yma a chynrychioli fy ardal yn San Steffan. Nid oes dim yn y cynigion hyn yn newid hynny, ac rwy’n dal i ganolbwyntio ar weithio’n galed dros etholwyr a’u lles gorau.”
“Byddwn yn annog pawb sy’n dymuno dweud eu dweud am y cynigion a gyflwynwyd gan y Comisiwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad drwy ymweld â phorth ymgynghori’r Comisiwn yn: https://www.bcw-reviews.org.uk/
“Byddaf hefyd yn trefnu i gadw copi yn fy swyddfa yng Nghonwy os bydd unrhyw un yn dymuno trefnu apwyntiad i’w gweld yno.”
Mae’r cynigion ar gael i’w gweld ar wefan Comisiwn Ffiniau i Gymru ac mae’r porth ymgynghori bellach ar agor.