Having pressed the Government to reduce fuel duty to help counter the record forecourt prices faced by motorists, Aberconwy MP Robin Millar has welcomed the Chancellor’s confirmation in the Spring Statement unveiled on Wednesday that fuel duty is to be cut by 5p per litre for a minimum of 12 months. Continuing the post-pandemic economic recovery, protecting the economy from the war in Ukraine and helping people with the cost of living was at the heart of Spring Statement and this was just one of the measures announced to help people with increasing energy and food bills.
Welcoming the Spring Statement, Robin said:
“Record forecourt prices are having a big impact on people and businesses here in Aberconwy and throughout the UK. High petrol and diesel prices disproportionately effect rural areas, such as the Conwy Valley and beyond, where public transport connectivity is limited and car dependency is high. Having pressed the Government on this issue I welcome the Chancellor’s and the Prime Minister’s recognition of these challenges with today’s confirmation of a 5p per litre cut to fuel duty – a £5 billion tax cut and the largest ever cut to fuel duty.”
Continuing, Robin said:
“The £500 million announced in extra funding for the Household Support Fund is UK-wide, with the Welsh Government receiving £25 million in Barnett consequentials. This is in addition to the steps that the UK Government has already taken to help with the cost-of-living. These include granting a £200 energy bill rebate and, through record levels of funding for the Welsh Government, a £150 Council Tax rebate for properties in Band A to Band D in Wales, along with a doubling of the Winter Fuel Payment for low-income households to £200.”
Finally, Robin said:
“I also welcome the increase in the National Insurance personal threshold to £12,570 from July. This is the largest increase in a personal tax threshold in British history, equivalent to a £6 billion tax cut for nearly 30 million workers and worth over £330 a year starting in July, across the entire UK.”
AS Aberconwy yn croesawu’r gostyngiad yn y dreth tanwydd
Ar ôl pwyso ar y Llywodraeth i leihau’r dreth tanwydd er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r prisiau uchel y mae modurwyr yn eu hwynebu, mae Robin Millar, AS Aberconwy, wedi croesawu cadarnhad y Canghellor yn Natganiad y Gwanwyn, a gyhoeddwyd ddydd Mercher, y bydd toriad o 5c y litr yn y dreth tanwydd am o leiaf 12 mis. Roedd parhau â’r adferiad economaidd ar ôl y pandemig, diogelu’r economi rhag y rhyfel yn Wcráin a helpu pobl gyda chostau byw wrth galon Datganiad y Gwanwyn, a dim ond un o’r mesurau a gyhoeddwyd i helpu pobl gyda biliau ynni a bwyd oedd hwn.
Wrth groesawu Datganiad y Gwanwyn, dywedodd Robin:
“Mae‘r prisiau uchel y mae modurwyr yn eu hwynebu yn cael effaith fawr ar bobl a busnesau yma yn Aberconwy a ledled y DU. Mae prisiau petrol a diesel uchel yn cael effaith anghymesur ar ardaloedd gwledig, fel Dyffryn Conwy a thu hwnt, lle nad oes cymaint o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ac felly mae llawer iawn yn dibynnu ar geir. Ar ôl pwyso ar y Llywodraeth ar y mater hwn, rwy’n croesawu cydnabyddiaeth y Canghellor a Phrif Weinidog y DU o’r heriau hyn gyda chadarnhad heddiw bod toriad o 5c y litr i dreth tanwydd – toriad treth o £5 biliwn a’r toriad mwyaf erioed i dreth tanwydd.”
Aeth Robin ymlaen i ddweud:
“Mae’r £500 miliwn a gyhoeddwyd mewn cyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth i Gartrefi yn cael ei gyflwyno ar draws y DU, gyda Llywodraeth Cymru yn cael £25 miliwn o symiau canlyniadol Barnett. Mae hyn yn ychwanegol at y camau y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi’u cymryd i helpu gyda chost byw. Mae’r rhain yn cynnwys rhoi ad-daliad bil ynni o £200 ac, o ganlyniad i Lywodraeth Cymru’n cael y lefelau uchaf erioed o gyllid, ad-daliad Treth Gyngor o £150 i eiddo ym Mand A i Fand D yng Nghymru, ynghyd â dyblu’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer aelwydydd incwm isel, sef swm o £200.”
Yn olaf, dywedodd Robin:
“Rwyf hefyd yn croesawu’r cynnydd yn nhrothwy personol Yswiriant Gwladol i £12,570 o fis Gorffennaf ymlaen. Dyma’r cynnydd mwyaf mewn trothwy treth personol yn hanes Prydain, sy’n cyfateb i doriad treth o £6 biliwn ar gyfer bron i 30 miliwn o weithwyr, ac mae’n werth dros £330 y flwyddyn. Bydd hyn yn dod i rym ar draws y DU gyfan o fis Gorffennaf.”