Aberconwy MP Robin Millar has welcomed a new Government campaign to boost the take-up of Pension Credit as part of wider support with the international rising cost of living.
Pension Credit is a top up for the most vulnerable pensioners that is worth an average of £3,300. As well as a cash top up to the State Pension, it opens access to a range of other benefits such as help with housing costs, council tax reduction schemes, heating bills and a free over-75s TV licence.
There are already 1705 claimants of Pension Credit in Aberconwy but it is estimated that around 25 per cent of people who could claim the extra help do not currently do so.
To help, the Government has launched a major campaign to encourage eligible pensioners, as well as those who care for and support older people, to access the help they are entitled to.
Pensions Minister Guy Opperman has written to local newspapers across the country and the Department for Work and Pensions will send leaflets to 11 million pensioners. A high-profile media day will also take place on 15 June 2022.
Pension Credit can be claimed online, by telephone or by post. Information is available on Gov.UK website www.gov.uk/pension-credit or by calling the Freephone Pension Credit claim line on 0800 99 1234.
Commenting, Robin Millar said:
“It is great news that 1705 pensioners throughout Aberconwy already claim Pension Credit, but it is important for everyone else in our area to claim all the help they are entitled to.
“That is why the Government has launched a major campaign to encourage eligible pensioners, as well as those who care for and support older people, to access the help they are entitled to.
“This will ensure that eligible pensioners know what support is available and will help people prepare and save for later life.”
Commenting, Minister for Pensions, Guy Opperman, said:
“Pension Credit provides a vital income ‘top up’ for some of our most vulnerable pensioners – worth more than £3,300 on average.”
“The good news is the latest figures show take-up is at the highest level since 2010 and around 1.4 million pensioners currently receive it. But there is much more to do to reach those who could claim but don’t.”
“That’s why I’ve written to local newspapers across the country, produced leaflets for 11 million pensioners and will be holding a Media Day in June to ensure everybody knows where to get extra help to which they are entitled.”
Robin Millar AS yn croesawu ymgyrch i gynyddu’r nifer sy’n hawlio credyd pensiwn yn Aberconwy
Mae AS Aberconwy Robin Millar wedi croesawu ymgyrch newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn fel rhan o gefnogaeth ehangach gyda chostau byw cynyddol yn rhyngwladol.
Mae Credyd Pensiwn yn arian ychwanegol i’r pensiynwyr mwyaf agored i niwed sy’n werth £3,300. Yn ogystal ag arian ychwanegol at Bensiwn y Wladwriaeth, mae’n cynnig mynediad at amrywiaeth o fudd-daliadau eraill fel help gyda chostau tai, cynlluniau i ostwng y dreth gyngor, biliau gwresogi a thrwydded deledu am ddim i bobl dros 75 oed.
Mae 1705 o bobl eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn yn Aberconwy ond amcangyfrifir nad yw tua 25 y cant o bobl a allai hawlio’r cymorth ychwanegol yn gwneud hynny ar hyn o bryd.
I helpu, mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch fawr i annog pensiynwyr cymwys, yn ogystal â’r rheini sy’n cefnogi ac yn gofalu am bobl hŷn, i gael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo.
Mae’r Gweinidog dros Bensiynau, Guy Opperman, wedi ysgrifennu at bapurau newydd lleol ar draws y wlad a bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon taflenni at 11 miliwn o bensiynwyr. Bydd diwrnod cyhoeddus uchel ei broffil hefyd yn cael ei gynnal ar 15 Mehefin 2022.
Gellir hawlio Credyd Pensiwn ar-lein, dros y ffôn neu drwy’r post. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Gov.UK www.gov.uk/pension-credit neu drwy ffonio’r llinell hawlio Credyd Pensiwn Rhadffôn ar 0800 99 1234.
Wrth wneud sylwadau, dywedodd Robin Millar:
“Mae’n newyddion gwych bod 1705 o bensiynwyr ar draws Aberconwy eisoes yn hawlio Credyd Pensiwn, ond mae’n bwysig bod pawb arall yn ein hardal yn hawlio’r cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo.
“Dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi lansio ymgyrch fawr i annog pensiynwyr cymwys, yn ogystal â’r rheini sy’n gofalu am bobl hŷn ac yn eu cefnogi, i gael gafael ar y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
“Bydd hyn yn sicrhau bod pensiynwyr cymwys yn gwybod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw a bydd yn helpu pobl i baratoi ac i gynilo ar gyfer yn nes ymlaen mewn bywyd.”
Dywedodd Guy Opperman, y Gweinidog dros Bensiynau:
“Mae Credyd Pensiwn yn darparu incwm ychwanegol hanfodol i rai o’n pensiynwyr mwyaf agored i niwed – ac mae’n werth dros £3,300 ar gyfartaledd.”
“Y newyddion da yw bod y ffigurau diweddaraf yn dangos bod y nifer sy’n ei ddefnyddio ar y lefel uchaf ers 2010 a bod tua 1.4 miliwn o bensiynwyr yn ei gael ar hyn o bryd. Ond mae llawer mwy i’w wneud i gyrraedd y rheini a allai hawlio ond sydd ddim yn gwneud hynny.”
“Dyna pam fy mod wedi ysgrifennu at bapurau newydd lleol ar draws y wlad, wedi cynhyrchu taflenni ar gyfer 11 miliwn o bensiynwyr a pham y byddaf yn cynnal Diwrnod Cyfryngau ym mis Mehefin i sicrhau bod pawb yn gwybod ble i gael y cymorth ychwanegol y mae ganddyn nhw hawl iddo.”