Robin Millar MP, 24th January 2022 -
Earlier this month Russian troops were deployed to suppress a civilian uprising and to protect Russian nationals, economic and military assets. Russian supplied weapons were used by the Russian trained security services who were ordered to “shoot to kill” protesters who had revolted against the Russian backed dictator of their country.
This situation played out in Kazhakstan, a former Soviet republic – but it serves as a reminder that Russia is determined to maintain its influence throughout the former Soviet Union. It also serves as a stark warning of the seriousness of the situation on Ukraine’s border and the small but real prospect of Russian invasion.
There are clear incentives for western involvement to prevent a Russian invasion of Ukraine.
First, the West has a moral obligation to take an interest and to act. Ukraine is a Western looking country with aspirations to join NATO, a defensive alliance. Russia’s response to such aspirations held by other former Soviet republics has been to try and install a puppet regime – historically with a scant regard for democracy or human rights. Further afield, Russia’s actions in Syria under Assad and Belarus under Lukashenko must raise concerns for the fate that awaits the people of Ukraine, should their country fall.
Second, practically, a Russian invasion would drive up our cost of living, energy prices, inflation and threaten our post pandemic economic recovery. While the United Kingdom imports minimal quantities of Russian gas – depending instead on imports of LPG imports from the Middle East and of gas through pipelines from Norway – we are as exposed as any other economy to wholesale gas price increases. Should Russia restrict, by which I really mean weaponise, gas supplies in the event of conflict, prices would be pushed even higher than present record levels.
Third, unchecked, an invasion would have huge geopolitical implications for Europe and the West. Plenty of other states around the world will be watching to see if Western words are followed by action. China – and Taiwan – will have noted the NATO withdrawal from Afghanistan, lead by an increasingly introvert US.
History teaches us that appeasing aggression only fuels more aggression. Even after thirty years, Russia has never fully accepted the independence of these former Soviet republics and has yearned to bring them back within its sphere of influence. Should Ukraine fall, Russia’s focus will shift to the Baltic States – each with their own significant Russian minorities.
However, the United Kingdom, along with our NATO allies, has been deterring them by overtly defending NATO Member States.
Military deployments have included RAF Typhoon fighter jets to Lithuania in support of Baltic Air Policing in June 2021 – resulting in multiple interceptions of Russian military aircraft. In May last year an RAF-led military Tactical Air Control Party (TACP) was sent to the Baltic region as a component of Operation Cabrit – the British operational deployment to Estonia where UK troops are leading a multinational battlegroup.
This battle group forms part of the NATO enhanced Forward Presence (eFP) mission, designed to improve Euro-Atlantic security, reassure NATO allies and deter NATO adversaries. Additional NATO reinforcements to the Baltic Sea include Denmark deploying a frigate and F-16 fighter jets and the US reportedly deploying additional warships and aircraft to the region, along with thousands of additional troops.
As NATO members, the Baltic States fall under the umbrella of NATO’s collective defence – the unique and enduring principle that binds all NATO members together: an attack, be it armed, cyber or CBRN, against one member is an attack against them all. Russian aggression against the Baltic States is therefore a scenario that must be deterred. NATO can provide this deterrence.
However, NATO must stand united – which is easier said than done.
Last week the US President cast doubt on that unity, mutual commitment and determination. He undermined weeks of diplomacy and careful positioning when he stated: “what you’re going to see is that Russia will be held accountable if it invades and it depends on what it does… It’s one thing if it’s a minor incursion, and then we end up having to fight about what to do and not do etc” He continued to say, “there are differences in NATO as to what countries are willing to do, depending on what happens.”
Closer to home, Germany, a key alliance member, is one of the world’s major arms manufactures and exporters and supplies weapons to nations such as Egypt, Israel and Pakistan. However, it is actively blocking the transfer to Ukraine from other alliance members urgently needed weapons including long range artillery shells and their delivery systems.
And this is exactly why the role of the UK is vital.
Shortly after being elected as the Member of Parliament for Aberconwy in 2019 I was privileged to be selected to participate in the Armed Forces Parliamentary Scheme. I am grateful to have had the opportunity to be briefed on our military preparedness in Eastern Europe and on the threat that Russia represents on several fronts. I am also grateful to have observed, first-hand, the professionalism and dedication of our Armed Forces personnel, along with the high standard of training that they receive.
The United Kingdom is showing leadership in supporting Ukraine and in deterring Russian aggression. In August last year the Defence Minister, Jeremy Quin MP, told Parliament that “since 2015, the UK has trained over 21,000 Ukrainian military personnel in medical skills, logistics, counter improvised explosive devices, leadership and infantry tactics as part of Operation Orbital.” More recently, recognising that a Russian invasion would be led by armoured columns crossing the border, the UK has provided targeted support to the Ukrainian military by airlifting 2,000 Next Generation Light Anti-Tank (NLAW) missiles. Given the scale of Russian armour this contribution is hugely significant in deterring Russian aggression, although it will not have gone unnoticed that public flight data shows the transport flights of this vital cargo are deviating around German airspace.
The price of this support is indeed high, but the cost of failure will be undoubtedly worse.
Our military support of Ukraine’s freedom is a symbol of the United Kingdom as a force for good in the world – every bit as much as our leadership in support for COVAX, the program to provide Covid-19 vaccines to developing nations. As I write, ‘God Save the Queen’ is trending on social media in Ukraine.
Every effort must be made to secure a diplomatic solution. But we must not repeat the mistake of Chamberlain, to confuse peace with an absence of conflict, until it is too late. Russia must know that any invasion of Ukraine will be resisted, militarily if necessary, by a united and determined NATO.
Rhaid i NATO wrthsefyll awydd Rwsia i adennill yr oruchafiaeth Sofietaidd
Robin Millar AS, 24 Ionawr 2022
Yn gynharach y mis yma anfonwyd milwyr Rwsia i dawelu gwrthryfel gan ddinasyddion ac i amddiffyn gwladolion ac asedau economaidd a milwrol Rwsiaidd. Defnyddiwyd arfau wedi’u cyflenwi gan Rwsia gan wasanaethau cudd wedi’u hyfforddi gan Rwsia a oedd wedi’u gorchymyn i “saethu i ladd” protestwyr a oedd yn gwrthryfela yn erbyn yr unben yn eu gwlad a oedd yn cael ei gefnogi gan Rwsia.
Digwyddodd hyn yn Kazhakstan, un o’r cyn weriniaethau Sofietaidd – ond mae’n ddigon i’n hatgoffa bod Rwsia’n benderfynol o gadw’i dylanwad ym mhob rhan o’r hen Undeb Sofietaidd. Mae hefyd yn rhybudd inni o ddifrifoldeb y sefyllfa ar ffiniau Wcrain a’r posibilrwydd bychan ond gwirioneddol y gallai Rwsia oresgyn y wlad.
Mae cymhellion cryf pam y gallai gwledydd y gorllewin weithredu i atal goresgyniad Wcrain.
Yn gyntaf, mae rhwymedigaeth foesol ar y Gorllewin i gymryd sylw ac i weithredu. Mae Wcrain yn wlad sy’n edrych tua’r Gorllewin gyda dyheadau i ymuno â NATO, y gynghrair amddiffynnol. Ymateb Rwsia i ddyheadau o’r fath ymhlith y cyn weriniaethau Sofietaidd oedd ceisio sicrhau cyfundrefn byped nad ydynt yn hanesyddol wedi talu llawer o sylw i ddemocratiaeth na hawliau dynol. Ymhellach i ffwrdd, bydd gweithredoedd Rwsia yn Syria o dan Assad ac ym Melarws o dan Lukashenko yn achosi pryderon ynglŷn â’r hyn a fyddai’n aros pobl Wcrain, pe bai’r gyfundrefn yno’n cwympo.
Yn ail, ac yn fwy ymarferol, byddai goresgyniad Rwsia yn achosi i’n costau byw a’n biliau ynni godi, ynghyd â chwyddiant a’r bygythiad i’n hadferiad economaidd ar ôl y pandemig. Er nad yw’r Deyrnas Unedig yn mewnforio llawer o nwy o Rwsia – rydym yn hytrach yn dibynnu ar fewnforion LPG o’r Dwyrain Canol a nwy drwy biblinellau o Norwy – rydym wedi’n hamlygu gymaint ag unrhyw wlad arall i gynnydd ym mhrisiau cyfanwerthu nwy. Pe bai Rwsia yn cyfyngu ar gyflenwadau nwy, ac yn defnyddio hynny fel arf, yn achos unrhyw wrthdaro, byddai prisiau’n codi’n uwch na hyd yn oed y rhai presennol.
Yn drydydd, heb ei atal, byddai gan oresgyniad oblygiadau geowleidyddol enfawr i Ewrop a’r Gorllewin. Bydd llawer o wladwriaethau eraill ledled y byd yn gwylio i weld a yw’r Gorllewin yn gweithredu ar eu geiriau. Bydd Tsieina – a Taiwan – wedi sylwi ar ymadawiad NATO ag Affganistan, o dan arweiniad UDA sy’n gynyddol fewnblyg.
Mae hanes wedi dangos inni fod ildio i drais yn ennyn mwy o drais. Hyd yn oed ar ôl 30 mlynedd, nid yw Rwsia wedi llawn dderbyn annibyniaeth y cyn weriniaethau Sofietaidd ac mae hi’n dyheu i’w cael yn ôl o dan ein hadain. Pe bai Wcrain yn cwympo, byddai sylw Rwsia wedyn yn troi at y gwladwriaethau Baltig - lle mae gan bob un eu lleiafrifoedd Rwsiaidd sylweddol eu hunain.
Fodd bynnag, mae’r Deyrnas Unedig, ynghyd â’n cynghreiriaid yn NATO, wedi ceisio eu hatal drwy amddiffyn Aelod Wladwriaethau NATO yn agored.
Cafodd awyrennau Typhoon yr Awyrlu eu hanfon i Lithwania ym mis Mehefin 2021 i gefnogi Plisoma Awyr yn y Baltig - ac arweiniodd hynny at dorri ar draws awyrennau milwrol Rwsia ar sawl achlysur. Ym mis Mai'r llynedd cafodd Parti Rheoli’r Awyr yn Dactegol (TACP) dan arweiniad yr RAF ei anfon i ardal y Baltig fel rhan o Operation Cabrit - carfan weithredol o’r DU i Estonia lle mae milwyr y DU yn arwain grŵp brwydr rhyngwladol.
Mae’r grŵp hwn yn rhan o uwch genhadaeth Forward Presence (eFP) NATO, gyda’r nod o wella diogelwch Ewro-Iwerydd, i dawelu cynghreiriaid NATO, ac atal gwrthwynebwyr NATO. Mae cyfraniad NATO yn ardal y Baltig yn cynnwys ffrigad ac awyrennau jet F-16 o Ddenmarc a chredir fod yr UDA wedi anfon rhagor o longau ac awyrennau rhyfel i’r ardal, ynghyd â miloedd o filwyr ychwanegol.
Fel aelodau NATO, mae’r Gwladwriaethau Baltig yn dod o dan amddiffyniad cyfunol NATO – yr egwyddor unigryw a pharhaol sy’n uno holl aelodau NATO: mae ymosodiad, boed yn un arfog, seibr neu CBRN, yn erbyn un aelod yn ymosodiad yn erbyn pob un. Mae ymddygiad ymosodol Rwsia tuag at y Gwladwriaethau Baltig felly’n rhywbeth y mae’n rhaid inni ei hatal. Mi all NATO weithredu fel rhwystr o’r fath.
Fodd bynnag, rhaid i NATO fod yn unedig – ac mae hynny’n haws dweud na gwneud.
Yr wythnos diwethaf, taflwyd cysgod amheuaeth dros yr undod hwn, y cyd-ymroddiad a’r penderfyniad gan Arlywydd yr UDA. Tanseiliwyd wythnosau o ymdrechion diplomyddol a thrafod gofalus pan ddywedodd: “yr hyn a welwch fydd Rwsia’n cael ei dwyn i gyfrif os bydd yn ymosod ac mae’n dibynnu ar yr hyn a wna … Mae’n un peth os bydd yn fân dresmasiad, ac wedyn byddwn yn diweddu’n gorfod ymladd dros beth i’w wneud a pheidio ei wneud ac ati” Aeth yn ei flaen i ddweud “mae gwahaniaethau yn NATO o ran yr hyn mae gwledydd yn barod i’w wneud, gan ddibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd.”
Yn nes at yma, mae’r Almaen, aelod allweddol o’r cynghrair, yn un o’r prif weithgynhyrchwyr arfau ac mae’n allforio ac yn cyflenwi arfau i wledydd fel yr Aifft, Israel a Phacistan. Fodd bynnag, mae hi wrthi’n ceisio rhwystro trosglwyddo arfau i Wcrain y mae angen brys amdanynt gan aelodau arall y gynghrair gan gynnwys sieliau pellter hir a’u systemau saethu.
A dyma pam mae rôl y DU mor allweddol.
Yn fuan cyn cael fy ethol fel Aelod Seneddol dros Aberconwy yn 2019 cefais y fraint o gael fy newis i gymryd rhan yn y Cynllun Lluoedd Arfog Seneddol. Rwyf yn ddiolchgar o fod wedi cael y cyfle i gael fy mriffio ar ein parodrwydd milwrol yn Nwyrain Ewrop ac ar fygythiad Rwsia o sawl cyfeiriad. Rwyf yn falch hefyd o fod wedi cael gweld, â fy llygaid fy hun, broffesiynoldeb ac ymroddiad ein Lluoedd Arfog, yn ogystal â safon uchel yr hyfforddiant maent yn ei gael.
Mae’r Deyrnas Unedig yn dangos arweiniad wrth gefnogi Wcrain ac wrth herio agwedd ymosodol Rwsia. Ym mis Awst y llynedd, dywedodd y Gweinidog Amddiffyn, Jeremy Quin AS, wrth y Senedd “ers 2015, mae’r DU wedi hyfforddi dros 21,000 o aelodau lluoedd arfog Wcrain mewn sgiliau meddygol, logisteg, atal dyfeisiadau ffrwydrol byrfyfyr, arweinyddiaeth a thactegau milwyr traed fel rhan o Operation Orbital.” Yn fwy diweddar, gan gydnabod y byddai ymosodiad gan Rwsia’n cael ei arwain gan golofnau arfog yn croesi’r ffin, mae’r DU wedi darparu cymorth wedi’i dargedu i fyddin Wcrain drwy gludo 2,000 o daflegrau Ysgafn Atal Tanciau’r Genhedlaeth Nesaf (NLAW). O ystyried grym arfog Rwsia mae hwn yn gyfraniad pwysig i atal ymddygiad ymosodol Rwsia, er y bydd pobl wedi sylwi bod data hedfan cyhoeddus yn dangos bod teithiau’r cargo hanfodol hwn yn teithio o amgylch gofod awyr yr Almaen.
Mae pris y gefnogaeth hon yn wir yn uchel, ond mi fydd cost methiant yn sicr yn uwch.
Mae ein cefnogaeth filwrol i ryddid Wcrain yn symbol o’r Deyrnas Unedig fel grym daioni yn y byd – llawn cymaint â’n harweiniad wrth gefnogi COVAX, y rhaglen i roi brechlynnau Covid-19 i wledydd datblygol. Wrth imi ysgrifennu, mae ‘God Save the Queen’ yn amlwg ar gyfryngau cymdeithasol yn Wcrain.
Rhaid gwneud pob ymdrech i gael datrysiad diplomyddol. Ond rhaid inni beidio ag ailadrodd camgymeriad Chamberlain, a drysu rhwng heddwch a diffyg gwrthdaro, nes bydd yn rhy hwyr. Rhaid i Rwsia ddeall y bydd unrhyw ymosodiad ar Wcrain yn cael ei wrthwynebu, yn filwrol os bydd angen, gan NATO unedig a phenderfynol.